Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 18 Tachwedd 2019
Amser:
13.30 -
14.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5617
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AC (Cadeirydd) Carwyn Jones AC Dai Lloyd AC |
Tystion: |
Jeremy Miles AC, Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit Claire Fife, Llywodraeth Cymru Dylan Hughes, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Rachael Davies (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies AC.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol.
Trafododd y Pwyllgor y Cod ac roedd yn fodlon arno.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd a thynnu sylw at faterion o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, ac mewn sesiwn breifat cytunwyd i ysgrifennu llythyr i ofyn am eglurhad pellach.
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol lythyr drafft at y Pwyllgor Busnes ar weithdrefn arfaethedig ar gyfer craffu ar filiau cydgrynhoi yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), a chytunwyd arno’n amodol ar fân newidiadau. Nododd yr aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 6 Rhagfyr 2019.